Cymrodyr a Gydnabuwyd ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd
5 Ionawr, 2026
Roeddem yn falch o glywed y newyddion bod dau o’n Cymrodyr wedi’u cydnabod ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau mawr i’r Athro Meena Upadhyaya a gafodd ei henwi’n Fonesig am ei gwasanaethau i gydlyniant cymunedol yng Nghymru ac i Eneteg Feddygol: ac i’r Athro Julia Jones MBE, Athro mewn Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, am ei gwasanaethau i’r amgylchedd.