Gwyliwch Nôl: Creu Seilwaith Ymchwil Iaith Gymraeg: Mynediad, Hyder, a’r Llwybr i Addysg Uwch 

Ar ddydd Llun 21 Medi, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru weminar yn archwilio’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg uwch ac ymchwil. 

Gydag uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn dod drwy addysg cyfrwng Cymraeg, bu’r sesiwn yn edrych ar y bwlch sy’n dal i fodoli rhwng ysgolion a phrifysgolion, a’r rhwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n effeithio ar sut mae ymchwilwyr a myfyrwyr yn defnyddio Cymraeg yn broffesiynol ac yn academaidd. 

Wedi’i chadeirio gan Yr Athro Enlli Thomas FLSW, agorodd y sesiwn gyda’i myfyrdodau ar y bwlch hwnnw, gan awgrymu ei fod yn deillio o ddiffyg hyder, cam-ddealltwriaeth o safonau iaith a lefel y gefnogaeth sydd ar gael. Gan dynnu ar ei phrofiad PhD ei hun, tynnodd sylw at bwysigrwydd magu’r sgiliau a’r hyder i ymdrin â’ch pwnc yn y Gymraeg a’r Saesneg, a sicrhau gofodau penodol ar gyfer magu’r sgiliau hynny yn y Gymraeg, yn enwedig mewn meysydd lle mae mynediad at yr iaith yn anoddach. 

Agorodd Dr Katharine Young y sesiwn gydag ymchwil yn tynnu ar ddata gan athrawon ar draws Cymru. Edrychodd ar sut mae cywilydd ieithyddol yn parhau mewn ysgolion, a sut y gall hyn adael myfyrwyr yn teimlo’n amharod i ddefnyddio’r iaith mewn addysg uwch. Gan dynnu ar ei brofiad ei hun fel awdur y traethawd ymchwil PhD cyntaf ym maes cemeg i gael ei ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg, trafododd Dr Owain Beynon yr heriau a’r buddion o gynnal ymchwil wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â’r ymdrechion i ehangu addysgu cyfrwng Cymraeg mewn pynciau STEM. Canolbwyntiodd Dr Gwennan Higham ar y gwahaniaeth rhwng siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith mewn addysg uwch, ac ar ddulliau sy’n meithrin datblygiad iaith ochr yn ochr â hyder academaidd ac ymdeimlad o berthyn i fyfyrwyr sy’n dechrau astudiaeth cyfrwng Cymraeg drwy’r llwybr ail iaith. 

Trodd y sesiwn wedyn at y darlun polisi, gyda Dr Bedwyr ab Ion Thomas yn trafod cyfrifoldebau Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i hyrwyddo, ariannu a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, a sefyllfa Ymchwil ac Arloesi o fewn y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Drydyddol sydd ar ddod. 

Rhannodd Dr Manon James o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol drosolwg o waith y Coleg, gan gynnwys ei gynllun ysgoloriaethau ymchwil a’i hyfforddiant sgiliau ymchwil cyfrwng Cymraeg. Bu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydweithio am flynyddoedd ar gefnogi ysgoloriaeth yn y Gymraeg ar hyd pob maes astudio, o’n darlith flynyddol ar y cyd, i’n cystadleuaeth Traethawd Tri Munud i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. 

Diolch i’r Athro Enlli Thomas FLSW am gadeirio, i’n holl siaradwyr, ac i bawb a ymunodd â ni. 

Gellir gwylio’r recordiad llawn isod: 

yn ôl i'r brig