Tri chynllun grant i ymchwilwyr: dyddiadau cau yn agosáu
Hydref 8, 2026
Ein cynlluniau grant: gwneud Cymru’n lle gwych i fod yn ymchwilydd
Yn sgil ein gwaith agos gydag ymchwilwyr ar draws Cymru, o brifysgolion i ddiwydiant i’r trydydd sector, rydym yn gwybod pa mor bwysig, ac anodd, yw dod o hyd i’r ychydig arian sydd ei angen i sefydlu rhwydwaith ymchwil neu redeg gweithdy cydweithredol.
Dyna ble gall ein cynlluniau grant amrywiol gael effaith fawr, ac mae tri ohonynt yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd.
Mae dau ohonynt yn agored i ymchwilwyr ar bob cam gyrfa ac ar draws pob sector ymchwil; mae’r trydydd yn benodol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar.
Ond brysiwch, mae’r dyddiadau cau yn prysur agosáu.
- Grantiau Rhwydwaith Diwylliant Ymchwil: hyd at £3000 i greu neu gynnal rhwydwaith sy’n mynd i’r afael â her benodol neu ddiffyg penodol o fewn y dirwedd ymchwil. Yn agored i bob ymchwilydd. Dyddiad cau: 14eg Hydref
- Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil: hyd at £1,000 i ariannu gweithdy i ddatblygu syniad ymchwil newydd gan gydweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau neu sefydliadau. Yn agored i bob ymchwilydd. Dyddiad cau: 14eg Hydref
- Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon: hyd at £2,000 i helpu ymchwilwyr i gynnal ymchwil gynradd, meithrin perthnasoedd cydweithio a chael mynediad at offer neu hyfforddiant yn Iwerddon. Dyddiad cau: 27ain Hydref.
Rydym yn griw cyfeillgar a bob amser yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch sut i gyflwyno cais.