Argyfwng ariannu Addysg Uwch: Datganiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae’r cyhoeddiadau diweddar ynghylch rhagor o golli swyddi ledled nifer o brifysgolion Cymru yn bryder mawr i ni. Yn fwy na dim, rydym yn pryderu am staff unigol, nifer ohonyn nhw yn Gymrodyr ac yn aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, sy’n wynebu ansicrwydd a phenderfyniadau sy’n newid bywyd.
Fel Academi Genedlaethol Cymru, rydym wedi trafod o’r blaen am y cyd-destun ariannol anodd y mae ein prifysgolion yn gweithredu ynddynt. Mae straen economaidd, effaith y polisi mewnfudo ar niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, a Brexit wedi cyfrannu at yr argyfwng hwn ledled y DU. Mae diffyg buddsoddiad mewn addysg uwch yn economi ffug, fel yr amlygwyd gennym yn ein hymateb i ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft, a’r ymgynghoriad diweddar ar strategaeth Medr. Mae’n peryglu’r cyfraniad sylweddol mae ein prifysgolion yn ei wneud at dwf economaidd mawr ei angen.
Felly, rydym yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am arian ychwanegol i’r sector. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sydd am ddarparu cymorth mawr ei angen yn y tymor byr.
Rydym o’r farn bod prifysgolion Cymru yn sefydliadau hanfodol yn eu cymunedau. Mae angen i’r rôl honno gael ei chryfhau, nid ei gwanhau. Mae ymchwil, mentrau allgynhyrchu ac allbwn o amryw o ddisgyblaethau, boed yn sylfaen wyddonol a pheirianneg, y celfyddydau a’r dyniaethau, i gyd yn cyfrannu at ganlyniadau gwell o ran iechyd, cryfhau bywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru, a thwf economaidd.
Yn sgil yr uchod, ac mewn cyfnod lle mae Llywodraeth Cymru â’r gyllideb fwyaf erioed, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar gynnydd pellach mewn cyllid tymor canolig a thymor hwy ar gyfer y sector. Byddai hyn yn fuddsoddiad doeth yn nyfodol ein cenedl.
Rydym yn cydnabod bod y DU cyfan yn profi amryw o’r problemau ariannol. Rydym yn falch o nodi y bydd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg Uwch yn gweithio’n agos gyda’i gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth San Steffan. Rydym yn erfyn arnynt i weithio ar ddarparu datrysiad hirdymor i’r problemau a wyneba prifysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Darllen pellach: