Dathlu Rhagoriaeth: Medalau 2022 – Enwebiadau Bellach ar Agor

Un o uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas yw dyfarnu ein medalau.

Mae’r rhain yn cydnabod rhagoriaeth ymchwil Cymru mewn gwyddoniaeth, addysg, gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau.

Ar ddydd Gŵyl Dewi, rydym yn dathlu ehangder a rhagoriaeth ymchwil o Gymru drwy lansio ein proses Medalau ar gyfer 2022.

  • Mae’r Fedal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad menywod i ymchwil ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).
  • Dyfernir Medal Menelaus i gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i academydd, i ymchwilydd diwydiannol neu i ymarferwr diwydiannol sy’n ddangos cysylltiad penodol â Chymru.
  • Enwir y fedal sy’n dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru er anrhydedd i Syr Hugh Owen.
  • Mae Medalau Dillwyn yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwilwyr gyrfa cynnar, ac yn tynnu sylw at academyddion a fydd yn mynd ymlaen i fod yn ffigurau blaenllaw yn eu meysydd.

Gall unrhyw un enwebu medalwyr. Felly, os oes rhywun rydych chi’n teimlo sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon, cymerwch ran.

Mae manylion y broses yma.

Enillwyr y gorffennol: dewch i gael syniad o bwy sy’n gymwys i dderbyn ein medalau. Mae enwebiadau ar agor tan 30 Mehefin. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn yr hydref.