Cymrodyr Newydd yr Academi Brydeinig 2016

Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru adrodd fod Nancy Edwards FLSW FBA, Athro Archeoleg Ganoloesol ym Mhrifysgol Bangor, a Kelvyn Jones FAcSS FLSW FBA, Athro Daearyddiaeth Ddynol Feintiol ym Mhrifysgol Bryste, ill dau ymhlith pedwar deg dau o academyddion nodedig y DU a etholwyd yn Gymrodyr yr Academi Brydeinig yn 2016, i gydnabod eu cyfraniad eithriadol i ymchwil.

Mae’r athro Nancy Edwards, sy’n Aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn arbenigo mewn archeoleg Cymru ac Iwerddon c.AD400 – 1150, ac yn benodol cerrig canoloesol cynnar ag arysgrifau, a cherflunwaith cerrig, ac archeoleg yr eglwys ganoloesol gynnar. Mae’r Athro Edwards ar hyn o bryd yn ymchwilio ac yn ysgrifennu llyfr Life in Early Medieval Wales fel rhan o Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme dros dair blynedd (2015-2018). Mae wedi cyfrannu dwy o dair cyfrol A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales. Mae’n ymwneud fel cyd-Gyfarwyddwr â Phrosiect Eliseg, sy’n ceisio deall cyd-destun hanesyddol ac archeolegol cymhleth Piler Eliseg o’r nawfed ganrif ger Llangollen.

Mae’r Athro Kelvyn Jones yn arbenigo mewn methodoleg gwyddor gymdeithasol feintiol, daearyddiaeth iechyd a daearyddiaeth gymdeithasol. Yr Athro Jones yw Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Daearyddol ym Mhrifysgol Bryste, ac roedd yn un o’r 20 daearyddwr dynol i’w dyfynnu fwyaf dros yr hanner canrif ddiwethaf yn 2009. Mae gwaith yr Athro Jones ar ddaearyddiaeth iechyd yn ymwneud ag anghydraddoldebau daearyddol o ran marwoldeb mewn economïau datblygedig ac mae’n cyfrannu at y drafodaeth ar ystyr effeithiau lle mewn iechyd. Mae’n gydawdur y gyfrol Health, Disease and Society y bernir iddi helpu i ailffurfio’r is-ddisgyblaeth ‘daearyddiaeth feddygol’ yn ‘ddaearyddiaeth iechyd’. Mae’r Athro Jones wedi cyfrannu ymhellach ar ddylunio ymchwil, ac yn benodol sut gallwn ddatblygu ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth mewn astudiaethau anarbrofol. Yr Athro Jones yw cyd-Gyfarwyddwr y Centre for Multilevel Modelling ac mae ei ymchwil yn ymwneud â dadansoddi meintiol data gwyddorau cymdeithasol gyda strwythur cymhleth, yn benodol pan geir sawl lefel o ddadansoddi, gan gymhwyso’r modelau hyn mewn ffyrdd newydd yn eang yn y gwyddorau cymdeithasol.