DIWEDDARIAD: Coronafeirws

Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaus i’r Gymdeithas yn y cyfnod heriol hwn.
 
Mae holl aelodau staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru bellach yn gweithio gartref ac mae modd cysylltu â nhw ar eu cyfeiriadau ebost a’u rhifau ffôn arferol.

Mae pob un o’n digwyddiadau cyhoeddus wedi’u canslo/gohirio tan o leiaf ddiwedd mis Mai. Er hynny, rydym ni’n gweithio ar nifer o syniadau am ddigwyddiadau a gweithgareddau ‘rhithiol’ y gellir eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.

Cyfarfu Cyngor y Gymdeithas ddydd Mercher 18 Mawrth. Roedd yr agenda’n cynnwys trafodaeth am effaith Covid-19 ar ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’n cinio blynyddol.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, dydd Mercher 20 Mai
Mae swyddogaeth cyfansoddiadol pwysig i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae’n nodi dechrau blwyddyn newydd y Gymdeithas a dechrau cyfnod y Llywydd newydd yn ei swydd. Yn draddodiadol hefyd dyma’r achlysur ar gyfer derbyn Cymrodyr newydd yn ffurfiol.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn ôl y cynllun, ond yr her yw gwneud hyn mewn ffordd sy’n cynnal pellhau cymdeithasol.

Er mwyn i’r Cyfarfod fod â chworwm, mae angen deugain o Gymrodyr. Mae dod â’r nifer hwn o bobl at ei gilydd yn yr un lle’n amhosibl, a thybio y bydd Covid-19 yn parhau ar ei drywydd presennol.

Cytunodd y Cyngor felly i ddiwygio rheoliadau’r Gymdeithas i ganiatáu cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o bell. Rydym ni wedi profi defnydd o gymwysiadau gwe i ganiatáu presenoldeb a phleidleisio o bell.

Caiff derbyn Cymrodyr newydd ei ohirio tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cinio Blynyddol, nos Fercher 20 Mai
Mae’r cinio blynyddol yn un o uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas. Fodd bynnag, dyw hi ddim yn bosibl ei gynnal gyda’r holl ansicrwydd ynghylch Covid-19.

Penderfynodd y Cyngor ohirio’r cinio a’r seremoni dyfarnu medalau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ar ddyddiad sydd eto i’w drefnu. 

Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am waith y Gymdeithas yn ystod y cyfnod hwn