Dyfarnu Medal Frenhinol 2016 i Syr John Meurig Thomas

Dyfarnwyd Medal Frenhinol 2016 yn y Gwyddorau Ffisegol i Syr John Meurig Thomas HonFREng FRS FLSW, sy’n un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, am ei waith arloesol ym maes cemeg catalytig, yn enwedig ar gatalyddion heterogenaidd safle sengl, sydd wedi cael effaith fawr ar gemeg werdd, technoleg lân a chynaladwyedd.

BBC Cymru erthygl newyddion

Dyfernir y tair Medal Frenhinol, a elwir hefyd yn Fedalau’r Frenhines, bob blwyddyn gan y Frenhines ar argymhelliad Cyngor y’r Gymdeithas Frenhinol. Dyfernir y Medalau am y cyfraniadau pwysicaf i ddatblygiadau gwyddonol ym meysydd y gwyddorau ffisegol, biolegol a chymwysedig. Y ddau enillydd arall yn 2016 yw’r Athro Elizabeth Robertson FRS (Prifysgol Rhydychen) a’r Athro John Goodby FRS (Prifysgol Caerefrog).

Sefydlwyd y Medalau Brenhinol gan EF y Brenin Siôr IV yn 1825. Un o enillwyr cynnar y Fedal oedd Michael Faraday (yn 1835), a wnaeth gyfraniadau arloesol i electromagneteg ac electrocemeg, ac y mae Syr John wedi ysgrifennu cofiant iddo: Michael Faraday and the Royal Institution: The Genius of Man and Place.

Mae Syr John yn adnabyddus am ei waith ym maes gwyddoniaeth catalyddion a chemeg cyflwr solet. Mae cadwyn gynhyrchu llawer o ddeunyddiau a chemegau modern yn cynnwys catalyddion – sylweddau sy’n cyflymu adweithiau cemegol, ond sy’n defnyddio llai o ynni ac nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llwyr eu hunain. Mae John wedi arwain y ffordd gan ddatblygu catalyddion ‘gwyrdd’ i leihau llygredd yn y prosesau cemegol a’u gwneud yn fwy effeithlon.

Bu Syr John yn arloesi gyda’r defnydd o dechnolegau fel microsgopeg electron a diffreithiant niwtronau i ‘weld’ sut mae nodweddion miniscwl arwyneb y catalyddion yn effeithio ar adweithiau cemegol. Mae ganddo arbenigedd penodol ym maes catalyddion heterogenaidd – rhai sydd mewn cam gwahanol i’r cemegau sy’n adweithio, fel deunydd soled sy’n catalyddu adweithiau hylifau.

Dechreuodd bywyd academaidd Syr John ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ac ef yw’r cyntaf o blith graddedigion y Brifysgol hon i dderbyn Medal Frenhinol. Mae gan Syr John gysylltiadau â nifer o Brifysgolion eraill Cymru, gan gynnwys gweithio i Brifysgol Cymru Bangor, bu’n Bennaeth yr Adran Cemeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Is-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ac ar hyn o bryd mae’n Athro Nodedig Er Anrhydedd mewn Cemeg Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Syr John yn gyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol rhwng 1986 a 1991 a bu hefyd yn Bennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac yn ddiweddarach yn Feistr Coleg Peterhouse. Dyrchafwyd Syr John yn farchog yn 1991 am ei wasanaeth i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth.