Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Cynnar mewn Cynhadledd Amaethyddiaeth Gynaliadwy

Bydd aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar yn cynnal sesiwn ar ‘Adeiladu eich Rhwydwaith fel Ymchwilydd Gyrfa Cynnar’ yn y gynhadledd Sustainable Agriculture for the 21st Century ym mis Chwefror, sydd yn cael ei rhedeg gan Rwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru.

Dros ddeuddydd, bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn arddangos yr ymchwil ragorol sy’n digwydd yng Nghymru (yn ogystal â gwesteion arbennig o sefydliadau blaenllaw’r UE) sy’n helpu i ddarparu systemau amaethyddol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Ein gweledigaeth yw amaethyddiaeth gynaliadwy sy’n cynnal cymunedau ac economïau lleol wrth gyfrannu at y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur. Nod y digwyddiad yw creu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr, partneriaid posib mewn diwydiant a rhanddeiliaid eraill gyda’r bwriad o fanteisio ar y cyfleoedd ariannu sydd yn rhaglen €95.5 biliwn Horizon Europe.

Y fformat fydd 2 ddiwrnod o sesiynau a gynhelir ar Chwefror 15fed a 16eg, yn ogystal â phythefnos o amser broceriaeth cynllun-agored lle gall mynychwyr a chyflwynwyr rwydweithio, cynnal cyfarfodydd 1:1, a threfnu sesiynau grŵp. Bydd siaradwyr yn defnyddio eu cyflwyniadau i amlinellu galluoedd, sgiliau, llwyfannau, cyllid cyfatebol posib neu anghenion polisi i hybu syniadau newydd a thanio cydweithrediadau newydd.