Effaith Gynyddol Y Gymdeithas ar Ddiwylliant Ymchwil Cymru

Mae ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar wedi sefydlu ei hun fel rhan bwysig o amgylchedd ymchwil Cymru. Nawr, yn ei hail flwyddyn, gall y Rhwydwaith frolio sawl datblygiad newydd cyffrous, gan gynnwys gwefan bwrpasol.

Mae dau fideo newydd yn dathlu llwyddiant Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y Gymdeithas.

Mae’r fideos yn cynnwys aelodau o’r rhwydwaith, ac yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i gefnogi cydweithredu rhwng ymchwilwyr. Maen nhw’n dangos rôl y Gymdeithas mewn creu amgylchedd sy’n gyfeillgar i ymchwil yng Nghymru.  

Meddai Dr Luci Attala, sy’n ymddangos yn y fideo: “[Mae’n] gymuned fywiog o unigolion yn cydweithio, ac mae hynny’n eich ysgogi. Felly mae’r Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar wedi bod yn ddefnyddiol iawn i hynny i mi.”  

Roedd Dr Attala yn un o’r siaradwyr yng Nghynhadledd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y llynedd, The Climate Emergency and Social Inequality. 

Un arall o’r siaradwyr yn y digwyddiad hwnnw oedd yr Athro Simon Middleburgh. Meddai: “Un o’r pethau rydyn ni’n ei wneud yn dda iawn yng Nghymru yw bod gennym ni gysylltiadau cyfathrebu gwych gyda phobl fel Llywodraeth Cymru, mae gennym ni gysylltiadau da iawn o ran y diwydiant, ac mae’r Gymdeithas Ddysgedig wedi helpu i wneud hynny, mae wedi rhoi’r cysylltiadau i ni wneud hynny.” 

Mae aelodau’r Rhwydwaith, drwy gydweithio gyda nifer o Gymrodyr, yn chwarae rôl allweddol mewn llunio ei ddatblygiad drwy Grŵp Cynghori newydd.