Darlithoedd Nadolig Prifysgol Abertawe 2024

Rydym yn falch o gefnogi darlith Nadolig Prifysgol Abertawe. Trefnir y darlithoedd gan yr adran ffiseg. Byddant yn cynnwys sesiynau ar yr Higgs Bosun ac amrywiaeth o gyflwyniadau gan fyfyrwyr PhD.

Rydym yn falch i eich gwahodd i ymuno â ni i'n Seremoni Fedalau eleni, a gynhelir nos Fercher 13 Tachwedd yn y Senedd, am 6pm.  Noddir y seremoni hon trwy garedigrwydd David Rees AS, a bydd siaradwyr a chyflwynwyr nodedig yn ymuno â ni i ddathlu ein henillwyr.

Ar 5 Tachwedd 2024, mae'r UK Young Academy yn gwahodd talent newydd Cymru o’r byd academaidd, diwydiant, meddygaeth, addysg, busnes, y celfyddydau a phroffesiynau eraill i ymuno â nhw yng Nghaerdydd am brynhawn o ddatblygu sgiliau rhwydweithio ac arweinyddiaeth.

Casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd, Ysgoloriaethau a'r Gymuned' yn ddigwyddiad ar y cyd i’r brifysgol a’r gymuned yn y gyfres i nodi 140 o flynyddoedd ers sefydlu Prifysgol Bangor.

Mae'r digwyddiad, a noddir gan Brifysgol Bangor a Chymdeit... Read More

Eisteddfod 2024: Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud

Bydd y sgil o ddisgrifio ymchwil cymhleth i gyhoedd gyffredinol yn cael ei phrofi mewn cystadleuaeth ‘Traethawd Tri Munud’ yn yr Eisteddfod eleni ym Mhontypridd.

Dere i wylio ymchwilwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gy... Read More

Sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn sesiwn 'cwrdd a chyfarch' ym Mhrifysgol De Cymru ar ddydd Mercher, 24 Gorffennaf 2024.

Bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn ar gael, ac mae croeso i chi galw heibio rhwng 15:00 - ... Read More

Gweithdy Oruchwylwyr YGGCC

Dyma wahodd goruchwylwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy'n goruchwylio myfyrwyr YGGCC i gymryd rhan yn y gweithdy blynyddol cyntaf ar-lein i oruchwylwyr YGGCC.

Prif amcanion y gweithdy yw:

Mae'r gweminar un-awr hon yn cyflwyno'r cyfranogwyr i rôl mentoriaeth academaidd trwy archwilio'r cwestiwn 'Beth sy'n gwneud mentor dda?'. Trwy drafodaethau diddorol a sesiwn holi ac ateb, a gyflwynir gan fentoriaid profiadol, bydd mynychwyr yn cael eu cyflwyno i nodweddion mentor da ac yn der... Read More