Gwireddu potensial Cymru fel cenedl arloesi

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ei Strategaeth Arloesi newydd i Gymru, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnig syniadau er mwyn cyfrannu at wireddu potensial Cymru fel cenedl arloesi.

Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnull chwe thrafodaeth bord gron o dan arweiniad yr Athro Rick Delbridge FLSW gan ddod ag arbenigwyr, ymarferwyr ac arweinwyr o’r byd arloesi ynghyd er mwyn helpu i oleuo a gwella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru.

Mae arloesi yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ac sy’n cael ei gamddeall weithiau”, meddai’r Athro Delbridge. “Yr hyn sydd wrth wraidd arloesi yw creu gwerth. A gallai’r gwerth hwnnw fod yn ddiwylliannol neu’n gymdeithasol yn ogystal ag economaidd. Mae mwy i arloesi na thechnolegau newydd a thorri tir newydd mewn meysydd gwyddonol, mae’n hollbwysig er mwy mynd i’r afael â heriau o flaen cymdeithas ac i wella gwasanaethau cyhoeddus“.

Ochr yn ochr â datblygiadau penodol yng Nghymru, roedd y cyfarfodydd bord gron yn myfyrio ar y datblygiadau diweddar ar raddfa’r DU, gan gynnwys Strategaeth Arloesi’r DU, ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mwy mewn ymchwil a datblygu, ac i gynyddu’r gyfran o fuddsoddiad a geir yn y DU y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf.  Mae creu Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn gydnabyddiaeth bellach o bwysigrwydd ymchwil a datblygu i’r economi a chymdeithas.

Mae’r datblygiadau hyn ar raddfa’r DU yn creu cyd-destun cymharol addawol ar gyfer gweithgarwch ymchwil ac arloesi. Serch hynny, mae colli mynediad at Gronfeydd Strwythurol yr UE, a’r ffaith na chafwyd unrhyw gynlluniau cyllido cyfwerth i gymryd eu lle hyd yma ar raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU  yn her enfawr o ran arloesi yng Nghymru. Roedd yr arian hwn yn bwysig er mwyn cefnogi datblygiad capasiti Datblygu, Ymchwil ac Arloesi Cymru, a’i photensial i gydweithio. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd angen i weithredwyr yn ecosystem ymchwil ac arloesi Cymru fod yn fwy effeithiol wrth sicrhau cyllid cystadleuol.  Bydd uchelgais Strategaeth Arloesi newydd Llywodraeth Cymru, a gweithredu’r Strategaeth honno, yn hanfodol i Gymru wireddu’r cyfleoedd hyn.

Ychwanegodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac aelod o grŵp y ford gron “Mae argyfyngau neu heriau’n creu adrenalin ar gyfer arloesi a datrys rhai o’r problemau mwyaf anhydrin, boed y rheiny o natur gymdeithasol neu economaidd neu’n gysylltiedig â sero net. Mae arloesi yn ddewis. Nid yw gweld y cyfle yr un peth ag achub arno.Mae’n rhaid felly ganolbwyntio o’r newydd ar arloesi fel berf – nid enw.”

Dyma’r prif gasgliadau a nodwyd yn y trafodaethau:

  • Mae angen gwell naratif ynghylch, ac ar gyfer, arloesi, sy’n crisialu diwylliant arloesi unigryw, ac yn cyfrannu at y diwylliant hwnnw.
  • Mae angen buddsoddiad i fynd i’r afael â materion capasiti a gallu, ynghyd â strategaethau i ddatblygu, denu a chadw talent.
  • Gallai cydgysylltu cyfleoedd yn well, hwyluso cysylltiadau, a chydnabod pwysigrwydd asedau anniriaethol, gan gynnwys clystyrau, fod o gymorth i sbarduno gweithgarwch.
  • Y potensial a gynigir gan y Comins Arloesi i wneud pethau’n wahanol, ac i ymgorffori’r Pum Ffordd o Weithio mewn arferion arloesi.

Daeth y trafodaethau bord gron ag ymarferwyr, hwyluswyr a meddylwyr sy’n flaenllaw ym maes arloesi ynghyd. Mae’r adroddiadau’n rhoi cipolwg gwerthfawr o’r prif faterion mewn ymarfer a pholisi arloesi yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ôl yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas, “Ceir llawer o enghreifftiau o weithgareddau llwyddiannus yn ecosystem Ymchwil a Datblygu Cymru, ac awydd clir i ddatblygu ymhellach y gallu a’r capasiti i rannu manteision eang arloesi ar draws y genedl. Edrychwn ymlaen i gefnogi Llywodraeth Cymru i wireddu uchelgeisiau Strategaeth Arloesi Cymru”.

Mae’r trosolwg a’r adroddiadau o’r holl drafodaethau bord gron ar gael ar wefan y Gymdeithas.