Lansio’r Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr  

Mae ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar wedi sefydlu ei hun fel rhan bwysig o amgylchedd ymchwil Cymru. 

Bydd ein Grŵp Cynghori newydd yn siapio cyfeiriad y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a’i weithgareddau. Bydd ei aelodaeth yn cynnwys pedwar aelod o’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a phedwar o Gymrodyr y Gymdeithas. 

Prif rôl y Grŵp Cynghori fydd asesu amgylchedd ymchwil presennol Cymru, ei chyfleoedd a’i rhwystrau, a bydd yn archwilio sut y gall y Gymdeithas ehangu ei gweithgareddau i ddatblygu gyrfaoedd ymchwilwyr. 

Meddai Cathy Stroemer, Arweinydd Rhaglen Cymru Gyfan y Gymdeithas – Datblygu Ymchwilwyr: 

“Mae hwn yn gam pwysig i’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar. Mae’n golygu y bydd cyfeiriad y Rhwydwaith o deithio, y digwyddiadau mae’n eu rhedeg a’r gefnogaeth mae’n ei ddarparu yn cael ei siapio gan ei aelodau. 

“Mae cael aelodau o’r Rhwydwaith yn eistedd ar y Grŵp Cynghori gyda nifer cyfartal o’n Cymrodyr, yn gosod y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar wrth galon gwaith y Gymdeithas. 

“Yn y cyfamser, mae cael Cymrodyr yn chwarae rhan ganolog yn ein gwaith i ddatblygu ymchwilwyr gyrfa cynnar yn anfon neges bwerus. 

“Mae’n dangos sut mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn unigryw yn ei gallu i ddod ag academyddion ac ymchwilwyr o bob cwr o Gymru ac ar draws sefydliadau ynghyd, p’un a ydynt yn ffigurau blaenllaw yn eu maes neu yn dechrau allan ar eu gyrfa ymchwil. 

“Bydd creu’r cyfleoedd hyn i rwydweithio, cydweithio a chynghori yn cyfrannu at iechyd diwylliant ymchwil Cymru am flynyddoedd i ddod.” 

Mae Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mewn cytundeb amlflwyddyn sydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ymchwil yng Nghymru. 

Rydym wedi creu cyfrif e-bost newydd i gadw mewn cysylltiad gydag aelodau o’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ynghylch unrhyw faterion yn ymwneud â gwaith y Grŵp Cynghori: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk