Grant Diwylliant Ymchwil Newydd yn cael dechrau gwerth chweil
Mae’r ymateb helaeth i lansio ein cronfa grant ddiweddaraf yn dangos cryfder sefyllfa ymchwil Cymru.
Bydd pedwar ar ddeg o brosiectau yn cael cyllid fel rhan o’r Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil, sy’n cael eu cynnal gennym ni mewn partneriaeth â Medr. Mae cyfanswm y gwerth ychydig dan £40,000.
Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo ymchwil ymhlith academyddion a gweithwyr proffesiynol fferylliaeth, yn ogystal ag annog cyfranogiad grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio mewn ymchwil ar newid hinsawdd ac iechyd. Bydd rhwydweithiau eraill yn hyrwyddo cyfleoedd i fenywod academaidd ym maes y gyfraith, ac yn cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi’u hileiddio/ethnig leiafrifedig o wahanol ddisgyblaethau. Mae cyfanswm y gwerth ychydig dan £40,000.
Mae’r cynllun yn agored i bob ymchwilydd, gan gynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa. Ei fwriad yw annog diwylliant ymchwil cadarn yng Nghymru drwy gefnogi ymchwilwyr a’u rhwydweithiau; gyda hyn dan sylw, bydd pump o’r prosiectau yn sefydlu rhwydwaith newydd, gyda rhai eraill yn cyfrannu at rwydweithiau presennol, a’u hehangu.
“Rydym wedi cael ein llethu gan nifer y ceisiadau y cawsom”, dywedodd Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr.
“Mae’n dangos yr awydd i ymchwilwyr greu rhwydweithiau cynaliadwy sy’n meithrin eu haelodau ac yn cynhyrchu canlyniadau y gallant eu rhannu â chynulleidfa ehangach.
“Mae hefyd yn dystiolaeth bellach o’r rôl gynyddol y mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n gweithio gyda phartneriaid fel Medr, yn ei chwarae wrth helpu i greu sefyllfa ymchwil gynhyrchiol yng Nghymru.”