Y Gymdeithas yn lansio’r cynllun grantiau ymchwil diweddaraf gyda ffocws ychwanegol ar heddwch

Mae lansiad heddiw o gylch diweddaraf ein Cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil yn ehangu ei gwmpas, ac yn cadarnhau ei le yn nhirwedd ymchwil Cymru.

Bydd hyd at 18 o brosiectau yn derbyn cyllid, yn bennaf hyd at £1,000. Fodd bynnag, gall nifer o brosiectau wneud cais am hyd at £2,000 o dan ffrwd ‘Llwybrau at Heddwch’ newydd. Bydd y ffrwd hon, sy’n cael ei noddi gan academi heddwch Cymru, Academi Heddwch, yn darparu’r cyllid ychwanegol i brosiectau sy’n cynnwys partner rhyngwladol.

Mae’r cynllun grant wedi bod yn rhedeg ers 2022 ac yn y cyfnod hwnnw, mae wedi cefnogi dros 35 o brosiectau, gan gwmpasu pob disgyblaeth o fewn tri maes eang: Astudiaethau Cymru, y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a chymwysiadau dan arweiniad ymchwilwyr gyrfa gynnar.

“Mae cyflwyno’r ffrwd Llwybrau at Heddwch yn ddatblygiad cyffrous,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Rydym wedi gweithio’n agos gydag Academi Heddwch yn y gorffennol, ac mae’r ffocws ar brosiectau a allai ddatblygu gwell dealltwriaeth o heddwch neu sy’n mynd i’r afael â materion penodol sy’n ymwneud â heddwch, yn teimlo’n arbennig o berthnasol ar hyn o bryd.

“Mae’r cynllun grantiau cyfan yn ganolog i’n hymdrechion i sicrhau effaith, meithrin cydweithredu a thyfu talent. Mae wedi dod yn ffynhonnell bwysig o gyllid, ac yn ein galluogi i wella ar ein hymrwymiad i wneud Cymru’n le gwych i fod yn ymchwilydd ynddi.”

Mae’r cynllun grantiau wedi’i gynllunio ar gyfer ymchwilwyr, i gynnal cyfres o weithdai sy’n dod â phobl at ei gilydd ar gam cynnar cynllunio a datblygu prosiect ymchwil cydweithredol. Y nod yw i’r gweithdai hyn arwain at greu rhwydwaith ymchwil neu geisiadau am gyllid ychwanegol i ddatblygu’r prosiect ymhellach.

Mae manylion llawn y broses ymgeisio a’r canllawiau ar gyflwyno cais ar gael yma.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 31 Hydref 2024.