Cymdeithas yn Lansio Cam Nesaf o’r Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil 

Heddiw, mae’n bleser gennym lansio ein cynllun ariannu Grantiau Gweithdai Ymchwil, 2022

Mae’r cynllun grant wedi’i gynllunio i annog ymchwilio’n gydweithredol i gais ymchwil sydd ar gam cynnar yn ei ddatblygiad, ac fe’i cefnogir gan CCAUC. 

Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot y llynedd, rydym wedi datblygu tair ffrwd ar gyfer 2022: 

  • Astudiaethau Cymru; 
  • Ymchwilydd Gyrfa Cynnar; 
  • Y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i annog cydweithredu hwyluso rhyngweithio deallusol a chreadigol a phartneriaeth rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ac o amrywiaeth o sefydliadau, o fewn y gymuned academaidd, y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector. 

Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect. 

Sut i wneud cais am ein Cynllun Grantiau ar gyfer Gweithdai Ymchwil
I gefnogi lansio ein rownd ddiweddaraf o Grantiau ar gyfer Gweithdai Ymchwil, byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 11 Hydref i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae’r cynllun yn gweithio, a sut i wneud cais am un o’r grantiau. Cadwch eich lle yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Tachwedd 2022

Am fanylion llawn, gweler ein canllaw