Cynllun Grantiau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Derbyn Ymateb Enfawr gan Ymchwilwyr o Gymru
Mae diddordeb digynsail yn ein cynllun grantiau gweithdai ymchwil wedi arwain at chwech ar hugain o brosiectau, ar draws pedair thema wahanol, yn derbyn cyllid.
Mae’r pynciau’n amrywio o glwb pêl-droed Wrecsam i belydrau cosmig, tegwch rhywedd yn y gweithle i fanciau bwyd, mewn arddangosfa agraffiadol sy’n dangos sut mae’r cynllun grantiau yn cwmpasu ystod ddeniadol o feysydd pwnc.
Mae’r cynllun wedi bod yn rhedeg ers 2022 ac mae bellach wedi darparu cyfanswm o 60 o brosiectau gyda grantiau rhwng £1,000 a £2,000. Mae’r cyllid wedi’i gynllunio i ddod ag ymchwilwyr o Gymru at ei gilydd mewn gweithdai cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, lle mae syniadau ymchwil a cheisiadau am ragor o gyllid yn cael eu datblygu.
Mae’r grantiau yn cael eu dyfarnu ar draws y themâu eang canlynol:
- Llwybrau at Heddwch (ar y cyd ag Academi Heddwch, sefydliad Heddwch Cymru)
- Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
- Astudiaethau Cymreig
- Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
“Cawsom ein synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.
“Mae’n gwbl amlwg bod y cynllun grantiau wedi dod yn rhan sylweddol o amgylchedd ymchwil Cymru erbyn hyn. Mae’n darparu’r math o gyllid sy’n aml yn gallu bod yn anodd cael gafael arno, yn enwedig i bobl ar ddechrau gyrfa ymchwil. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein holl gyllidwyr – mae eu cyfraniadau yn allweddol mewn hyrwyddo’r gwaith hanfodol hwn yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Mae’r cysylltiad eleni gydag Academi Heddwch yn ddatblygiad cyffrous, yn gyntaf oherwydd ei ffocws ar astudiaethau heddwch, lle mae angen gweithredu ar dipyn o frys yn yr amseroedd presennol.”
Bydd y rheiny a dderbyniodd y grantiau yn ysgrifennu adroddiad interim yn ddiweddarach yn y gwanwyn, cyn cyflwyno adroddiad terfynol yn yr haf.
Dyma’r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gennym (wedi’u rhestru gyda’r prif gynigydd):
| Teitl y Prosiect | Prif Gynigydd | Prif Sefydliad |
|---|---|---|
| Astudiaethau Cymreig | ||
| Empowering Llanelli through Community-Driven Entrepreneurial Education: A Model for Welsh Town Regeneration | Dr Felicity Healey-Benson | Harmonious Entrepreneurship Society (Ltd) |
| Access Insight Knowledge Exchange Workshops | Anita Naoko Pilgrim | Y Brifysgol Agored |
| How can housing associations transform food systems in Wales? | Dr Hannah Pitt | Prifysgol Caerdydd |
| Arbrofi: Devolved jurisdictions as spaces for aspirational legislation | Dr Caer Smyth | Prifysgol Caerdydd |
| Addysg i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru a Quebec: cydweithio i rannu arfer gorau a datrys heriau | Dr Kathryn Jones | IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith |
| Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol | ||
| Animated Landscapes: Narrative and Engagement with Sacred Sites with Welsh and Global Contexts | Dr Louise Child | Prifysgol Caerdydd |
| The 28 Archive Workshops | Dr Sara Correia-Hopkins | Prifysgol Abertawe |
| Interdisciplinary investigation of soil sensing and monitoring applications for public engagement and climate action | Dr Paul Granjon | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
| What can we learn from firsthand accounts of death and dying? An exploration of raw and honest narratives from those at the end of life, their loved ones and their health care professionals. | Dr Annie Hendry | Prifysgol Bangor |
| Play for Children affected by Displacement in Wales | Dr Justine Howard | Prifysgol Abertawe |
| Implementing a decolonising project in context: Being led through student needs and perception | Dr Ahmed Raza Memon | Prifysgol Caerdydd |
| Assisted Reproductive Technology as poetic ART: Reframing medical experience through creative practice | Dr Carrie Smith | Prifysgol Caerdydd |
| Early Career Teacher retention in Wales: Coaching for professional development | Dr Laura Nicole Rees-Davies | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
| Beyond the Ballot: Reimagining Democratic Engagement | Sarah Roberts | Y Brifysgol Agored |
| Arts Engagement for Disability Groups | Dr Grace Thomas | Prifysgol Wrecsam |
| Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar | ||
| Exploration of cosmic ray-initiated lightning during thunderstorms | Dr Muhammad Naeem Anwar | Prifysgol Abertawe |
| Closing the gap of equality of access to fresh food produce and improving mental wellbeing in food bank service users | Dr Alecia Cousins | Prifysgol Abertawe |
| Neuro-affirming Welfare Spaces | Dr Josie Henley | Prifysgol Caerdydd |
| Wrexham Football Club & Welshness: An interdisciplinary examination of the Wrexham AFC takeover and its impact upon Welsh language, culture and identity | Dr Nina Jones | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
| What is School Readiness? Does Family Resilience Impact School Readiness? | Dr Amanda Thomas | Prifysgol De Cymru |
| Advancing Gender Equity in Welsh Workplaces | Dr Lauren Josie Thomas | Prifysgol De Cymru |
| A BCUHB and Bangor University task force to establish a statement of urgent research priorities around school readiness across North Wales | Dr Charlotte Wiltshire | Prifysgol Bangor |
| Llwybrau at Heddwch | ||
| Co-developing improved access to psychosocial interventions and social prescribing in the community for people seeking refuge and asylum. | Dr Rabeea’h W Aslam | Prifysgol Caerdydd |
| A Welsh Pathway to Peace: Storytelling and Forced Migration | Dr Gillian McFadyen | Prifysgol Aberystwyth |
| Supporting Girls’ Everyday Politics in Uganda | Dr Rosie Walters | Prifysgol Caerdydd |
| Stories of Peace from Myanmar to Wales: Place-based Storytelling and Pedagogic Decolonising for Displaced Youth | Dr Yi Li | Prifysgol Aberystwyth |