Llywydd Newydd i’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Bydd yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn Llywydd cyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n fenyw. 

Bydd y Fonesig Elan yn dechrau yn y swydd ym mis Mai 2026, wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed. Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae’r Gymdeithas yn cynnwys 700 o Gymrodyr, academyddion, ymchwilwyr ac arweinwyr o fywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Mae’n hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil Cymru, ac yn cyfrannu at y trafodaethau am y polisïau sy’n effeithio ar Gymru.

Cafodd y Fonesig Elan ei geni yng Ngwynedd. Hi yw un o weision cyhoeddus mwyaf nodedig Cymru, gyda phrofiad helaeth yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth ac addysg uwch. Ymhlith ei rolau niferus, mae hi’n Gomisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, bu’n Gadeirydd Dros Dro i’r BBC rhwng 2023 – 2024, ac mae hi’n Athro Emerita mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hi hefyd yn Ddirprwy-Ganghellor.

Dywedodd y Fonesig Elan: “Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r Cyngor a’r Cymrodyr am roi ei ffydd ynof. Bydd yn anrhydedd fy mywyd i ddilyn yr Athro Hywel Thomas sydd yn arwain y Gymdeithas mor ddisglair.

 “Rydym yn byw trwy gyfnod anodd iawn i Brifysgolion a chyrff cyhoeddus tra bod y DU a Chymru yn brwydro i wella y sefyllfa ariannol. Nod y Gymdeithas yw clodfori cyfraniad nodedig prifysgolion a’r sector gyhoeddus i‘n cymdeithas.

 “Mae gan ein hymchwil , ein sefydliadau, ein bywyd cyhoeddus gymaint i’w roi i Gymru ac yn rhyngwladol. Y mae yna stori nodedig i’w dweud.”

Meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rydym yn gyffrous ein bod yn mynd i fod yn gweithio mor agos gyda’r Fonesig Elan yn y dyfodol.

“Mae’r pum mlynedd ddiwethaf, gyda Hywel Thomas wrth y llyw, wedi gweld twf mawr yn y Gymdeithas, gyda llawer o arloesedd a chynnydd.

“Mae’r cyfle i adeiladu ar hynny, gyda’r safbwyntiau unigryw, y sgiliau a’r cysylltiadau y mae’r Fonesig Elan yn eu cyflwyno, yn golygu ein bod yn hyderus y bydd y Gymdeithas yn parhau i chwarae rhan weithgar ym mywyd dinesig ac academaidd Cymru.”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Thomas, sydd wedi bod y Llywydd ers 2020:

“Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Llywydd Cymdeithas Ddysgiedig, ac rwy’n gwybod y profiad gwych sydd yn wynebu’r Fonesig Elan.

“Mae Cymru, y byd a’r amgylchedd ymchwil ac arloesi i gyd yn wynebu heriau. Felly, ni allai’r Gymdeithas obeithio am rywun gyda mwy o brofiad a doethineb i helpu i’w llywio drwy’r blynyddoedd sydd i ddod.

“Rwy’n dymuno’r gorau iddi.”

yn ôl i'r brig