Llongyfarchiadau i Brif Weinidog newydd Cymru

Rydym yn llongyfarch y Farwnes Eluned Morgan ar ddod yn Brif Weinidog Cymru. Mae ei chyflawniad o ddod yn Brif Weinidog fenywaidd gyntaf Cymru yn un arwyddocaol a phwysig.

Rydym wedi mwynhau perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda Phrif Weinidogion blaenorol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Farwnes Morgan. Mae ei phrofiad eang, yn bennaf ym maes iechyd ac arloesedd, yn gorgyffwrdd â diddordebau a chryfderau Cymdeithas Ddysgedig Cymru a nifer o’i Chymrodorion.