Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil: Cyfnewid Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad

Ni ellir tanbrisio pŵer hyfforddiant priodol i helpu cymunedau yng Nghymru sy’n dal i geisio adfer o dlodi ac amddifadedd ôl-ddiwydiannol. Fodd bynnag, mae rhoi gwybod i bobl am gyrsiau addas, ac yna’u cadw fel myfyrwyr, yn her barhaus.

Mae arbenigedd staff addysgu sy’n gweithio yn y sector trydyddol yn meddu ar atebion i’r problemau hyn – yn aml mewn ymchwil heb ei chyhoeddi a gwaith ymarfer arloesol . Trueni na fyddai modd cysylltu â’r gymuned ymarfer honno a dod o hyd i ffordd o rannu eu mewnwelediadau a’u datrysiadau. Yn ffodus, diolch i grant gweithdy ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru diweddar, darparwyd allanfa o’r fath gan gyfres o seminarau a rhifyn arbennig dilynol o gyfnodolyn.

Mae Anita Pilgrim, arweinydd y prosiect, yn adrodd y stori:

Yn 2023, cefnogodd y Brifysgol Agored yng Nghymru brosiect cydweithredol gyda phedwar ar ddeg o sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru (wedi’u hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), i edrych ar fynediad at addysg uwch. Fi oedd Prif Ymchwilydd y prosiect, a ddaeth o hyd i ddarlun cymysg gyda llawer o lwyddiannau yn y ddarpariaeth, ond hefyd bylchau mewn cyrsiau addas ledled Cymru. Daethom o hyd i sawl her o ran recriwtio a chadw ar gyfer cyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys cyfrifoldebau teuluol, problemau iechyd meddwl a diffyg diogeledd ariannol i fyfyrwyr. Yn adroddiad llawn y prosiect, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, bu i ni alw am ddarpariaeth fwy hyblyg a rhan amser, yn ogystal â chymorth canolog gwell i ddysgwyr ddod o hyd i gyrsiau a chyllid.

Cyflwynwyd pum argymhelliad gennym. Un ohonynt oedd “cefnogi cydweithrediad parhaus ymhlith darparwyr addysg ar gyfer pontio ôl-16 a dysgwyr sy’n oedolion”. Daethom o hyd i ychydig o drafodaethau cyhoeddedig ar gyrsiau Mynediad, Sylfaen a llwybrau dysgu eraill i addysg uwch yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ystod yr ymchwil, daethom ar draws sawl aelod o staff addysgu gyda thraethodau ymchwil Meistr a PhD heb eu cyhoeddi, ac enghreifftiau o ymarfer arloesol heb ei ddogfennu. Daethom i sylweddoli bod gennym gymuned ymarfer ddechreuol, a allai gydag ychydig o gefnogaeth rannu arfer da a meddwl mewn ffordd arloesol ynghylch darparu gwell mynediad gwell at addysg bellach ac uwch i ddysgwyr dan anfantais.

Yn 2024/25, cawsom gyllid grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi dwy seminar hybrid i arddangos cyflwyniadau yn sgil y gwaith hwn. Cafodd un ei chynnal yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, yn y gogledd, ac un yng Ngholeg Penybont, yn y de. Daeth y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar y pryd i’r seminar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ein hannog ni gyda’i phrif araith. Roedd ei chael hi a’i staff yn y digwyddiad yn golygu y gallai cyfranogwyr rannu ein hastudiaethau achos ymarfer arloesol a’n dadansoddiad academaidd gyda llunwyr polisi cenedlaethol, yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaeth gydag ymarferwyr eraill. Tan hynny, nid oeddem yn gwybod am ymchwil ein gilydd – weithiau hyd yn oed pan gaiff ei chynnal yn yr un sefydliad.

Roedd y cyflwyniadau yn cynnwys un ar raglen dysgu hybrid arloesol a phoblogaidd i gefnogi myfyrwyr Mynediad drwy dechnoleg addysgu ar-lein newydd; mewnwelediadau o astudiaeth yn gweithio gyda myfyrwyr benywaidd ym maes Addysg Bellach; ‘gwerth’ astudiaethau Sylfaen i fyfyrwyr y tu hwnt i’w graddau terfynol a rhagolygon swyddi/cyflog; a dadansoddiad o sut y mae astudiaethau Addysg Uwch mewn sefydliad Addysg Bellach yn cefnogi anghenion myfyrwyr anhraddodiadol.

Ac eto, roeddwn yn teimlo bod mwy y gallem ei wneud i rannu’r wybodaeth a’r mewnwelediadau oedd yn cael eu datgelu, i Lywodraeth Cymru – a thu hwnt hyd yn oed. Dechreuom gysylltu â chyfnodolion i holi am roi Rhifyn Arbennig ar Gymru at ei gilydd. Gwyddwn, o gynnal chwiliad llenyddiaeth ar gyfer y prosiect, nad oedd llawer wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar ynghylch ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch yng Nghymru – neu hyd yn oed Addysg Bellach yn ei chyfanrwydd. Wrth i’r sector addysg drydyddol gael dwyn ynghyd drwy Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (2022), mae trosolwg o’r ffyrdd y gall myfyrwyr dan anfantais gael mynediad at addysg uwch drwy sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch yn amserol iawn.

Mynegodd nid un, ond dau gyfnodolyn ddiddordeb mewn Rhifyn Arbennig ar Gymru. Dewisom y cyfnodolyn Ehangu Cyfranogiad a Dysgu Gydol Oes, gan fod ei gylch gorchwyl yn cyd-fynd yn union â gwaith ein cymuned ymarfer ddechreuol. Mae gan y cyfnodolyn gyrhaeddiad rhyngwladol. Yn hynod o bwysig i ni hefyd, mae WPLL yn gyfnodolyn mynediad agored. Nid oes gan lawer o’r sefydliadau yn ein cymuned ymarfer yr arian ar gyfer tanysgrifiadau erthyglau academaidd, fodd bynnag, bydd pawb yn gallu cyrchu’r erthyglau yn ein Rhifyn Arbennig sydd ar y gweill yn ddidrafferth.

Mae golygu’r Rhifyn Arbennig wedi cynnig llawer o gyfleoedd i gefnogi syniadau ym maes ehangu cyfranogiad yng Nghymru. Defnyddiom y ddwy seminar yr oeddem yn gallu eu cynnal fel ysgogwyr i ddwyn perswâd ar y rhai a fu’n rhoi cyflwyniadau i ysgrifennu’r rheiny i’w rhannu ymhellach fel erthyglau cyfnodolion. Yn y maes hwn, nid oes llawer o bobl yn gyfarwydd â chyhoeddi eu gwaith mewn cyfnodolion academaidd, ac nid oes cyfnodolion ‘masnach’ fel y cyfryw. Mae llawer o’r awduron yn ein rhifyn arbennig, yn enwedig y rhai o golegau AB yn hytrach na phrifysgolion, yn ddibrofiad mewn ysgrifennu academaidd. Roedd hwn yn gyfle i’w cefnogi i ysgrifennu ymarfer arloesol a oedd weithiau’n torri tir newydd. Bu i mi wneud yn siŵr fy mod yn cael cydweithiwr i gyd-olygu, gan feithrin gallu yn y maes ar gyfer y dyfodol.

Cawsom hefyd gynnig myfyriwr ar brofiad gwaith o’r brifysgol. Dywedodd ei bod wedi dychmygu y byddai’n “gwneud coffi i bawb”, fodd bynnag, fe wnes i awgrymu ei bod yn gweithio gyda mi ar erthygl ‘llais y dysgwr’ – roedd ein grŵp llywio wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau bod yr erthygl yn cael ei gwreiddio yn y prosiect. Cawsom elwa ar ei mewnwelediadau fel myfyriwr, a chafodd brofiad gwych yn ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi trafodaeth ar gysyniad academaidd hanfodol bwysig. Teimlodd fod hyn ” yn ddiddorol, yn ddifyr – yn brofiad gwerthfawr”.

Mae’r newid mewn polisi yng Nghymru i sector trydyddol unigol yn cael ei wylio’n ofalus ledled y byd i weld pa fuddion a allai ddod yn sgil hyn, mewn gwlad fechan y mae tlodi ac amddifadedd ôl-ddiwydiannol yn dal i effeithio arni. Mae cefnogi’r cyfranogwyr yn ein dwy seminar a ariannwyd i gyhoeddi eu syniadau yn cynnig cyfleoedd i’r rhai y mae eu gwaith beunyddiol yn golygu rhoi ail gyfle addysgol i boblogaethau o ardaloedd a nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru fel rhai sydd â diffyg rhagolygon. Bydd hyn yn cyflwyno cipolygon y tu hwnt i Gymru ar sut y gallem ymgymryd ag ehangu cyfranogiad yn well mewn addysg uwch.

Drwy adeiladu ar y ddwy seminar a ariannwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyda’r Rhifyn Arbennig hwn sydd ar y gweill, rydym wedi dal ati gyda chyfnewid gwybodaeth a’n cymuned ymarfer ddechreuol. Ein her nesaf yw ystyried sut i gefnogi dysgwyr i ddod o hyd i’r amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael iddynt, a’u harchwilio. Rydym yn rhagweld map neu borth ar-lein – yr unig beth sydd ei angen arnom yw daearyddwr cymdeithasol sydd â phrofiad o fapio ar-lein i’n helpu i’w ddylunio; os ydych chi’n adnabod person o’r fath, cysylltwch â ni!

yn ôl i'r brig