Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru?

Rydym yn gwahodd mewnwelediad ac adborth gan unrhyw un sydd wedi ystyried Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rydym yn awyddus i wella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn y gellir gwella arno wrth i ni ddechrau adolygu ein proses enwebu ac ethol i’r Gymrodoriaeth.

Boed ydych wedi bod yn meddwl tybed beth yw Cymrawd, wedi ystyried cael eich enwebu, wedi edrych ar ein gwefan, wedi ymuno ag un o’n sesiynau gwybodaeth neu hyd yn oed wedi dechrau gweithio gyda rhywun i’w enwebu – byddem yn gwerthfawrogi eich barn ar sut y gweithiodd hyn i chi.

Rydym yn cynnal arolwg byr dienw (ar agor tan Dydd Llyn 19eg Mis Ionawr ) fydd o gymorth i lywio adolygiad o’r broses gyfan a gynhelir yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bydd mewnwelediad fel hyn yn hanfodol i’n cynorthwyo i ddeall lle mae ein cefnogaeth, ein harweiniad a’n prosesau cyfredol yn llwyddo i gynnig cymorth, a lle y gall fod gennym rwystrau anfwriadol i ymuno â’r Gymrodoriaeth y gallwn fynd i’r afael â hwy i wella’r broses wrth symud ymlaen.

Pe bai’n well gennych siarad ag aelod o staff, neu ofyn unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni ar: lsw@wales.ac.uk.

Gellir gweld ein hesboniad a’n canllaw cyfredol o’r broses yma ar ein gwefan.

yn ôl i'r brig