‘Lleisiau Ymddiriedig’: cynllun grant newydd yn cynnig hyd at £10,000
Bydd partneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Ymddiriedolaeth Williamson yn cynnig tri grant hyd at £10,000 yr un ar gyfer prosiectau sy’n creu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt sy’n arloesol, yn apelgar ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt.
Rhaid i’r cynnwys fod yn seiliedig ar waith ymchwil a thystiolaeth sy’n bodloni themâu Cymru iachach, pobl iachach yng Nghymru, neu blaned iachach.
Mae’r cwmpas ar gyfer cyflwyno’r cynnwys yn eang iawn, gydag unrhyw beth o TiklTok i berfformiad mewn gŵyl, ac unrhyw beth rhwng y naill beth a’r llall.
“Yma yn Ymddiriedolaeth Williamson, rydym yn deall bod gwybodaeth yn grymuso pobl i wella eu bywydau, drwy feithrin amgylcheddau a chymunedau iach, a gwella mynediad at fwydydd iach.” meddai’r Athro David Salt, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.
“Gyda’r rhaglen Lleisiau Ymddiriedig yma, ein nod yw adeiladu rhwydweithiau cryf, parhaus rhwng rhai sy’n cynhyrchu gwybodaeth a’r bobl a’r cymunedau sy’n darparu’r newid yma sydd ei angen.
“Mae Ymddiriedolaeth Williamson yn falch iawn o fod yn partneriaethu gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru i gynnig cynllun grant newydd, ac edrychwn ymlaen at adeiladu carfan o leisiau ymddiriedig i ymuno gyda’r gwaith o wneud ein byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Bydd ymgeiswyr sydd ar y rhestr fel yn derbyn hyfforddiant arbenigol sy’n gallu cynnig naill ai gefnogaeth gyrfa, fel sy’n ofynnol, neu gynorthwyo gyda datblygu cynnwys. Byddant hefyd yn ffurfio carfan o leisiau ymddiriedig ar gyfer Cymru, fydd yn gallu siarad ar thema ‘Pobl Iach, Planed Iach’, sydd yn egwyddor arweiniol Ymddiriedolaeth Williamson.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a manylion ynghylch cyflwyno mynegiant o ddiddordeb cychwynnol.