Gwobr fawreddog i dair prifysgol yng Nghymru
27 Chwefror, 2024
Derbyniodd tair prifysgol yng Nghymru Wobr Pen-blwydd y Frenhines mewn seremoni ym Mhalas Buckingham yn gynharach y mis hwn. Mae’r wobr fawreddog yn dathlu rhagoriaeth, arloesedd a budd i’r cyhoedd am waith gan golegau a phrifysgolion y DU. Dyfarnwyd y gwobrau am y canlynol:
- Prifysgol Aberystwyth: ‘Gwarchod pobl, anifeiliaid ac economïau rhag llyngyr parasitig niweidiol’
- Prifysgol Bangor: ‘Monitro yn seiliedig ar ddŵr gwastraff: dull holistaidd’
- Prifysgol Abertawe: ‘Defnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth’