Yr Athro Roger Falconer yn derbyn anrhydedd peirianneg yn Tsieina

Etholwyd yr Athro Roger Falconer, Athro Emeritws Rheoli Dŵr yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd a Chymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Aelod Tramor o Academi Peirianneg Tsieina (CAE) yn etholiad dwyflynyddol CAE ym mis Tachwedd 2019.

Etholwyd Roger i’r CAE i gydnabod ei ‘gyfraniadau nodedig i beirianneg hydrolig ac i hyrwyddo cyfnewidiadau Tsieina-y DU a chydweithio yn y maes’, gwaith y dechreuodd yn 1983. Mae ei brosiectau cydweithredol ar hyn o bryd yn bennaf gyda phrifysgolion Hohai a Tsinghua.

‘Rwyf i wedi bod yn ffodus i gael cyfle i weithio gyda nifer o brifysgolion yn Tsieina ers fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Tongji, Shanghai, yn 1983,” dywedodd yr Athro Falconer.

“Rwyf i wedi dysgu cymaint o weithio gydag amrywiaeth eang o academyddion ac ymchwilwyr llywodraethol yn Tsieina dros y 27 mlynedd ddiwethaf, ac mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol yn ddiweddar yn Aelod Tramor Academi Peirianneg Tsieina.”

Aelodaeth o’r CAE yw teitl academaidd uchaf Tsieina ym maes peirianneg gwyddoniaeth a thechnoleg ac mae’n anrhydedd oes, gydag aelodau presennol y CAE yn ethol.

Dinasyddion nad ydynt yn dod o Tsieina yw’r aelodau tramor. Maent yn beirianwyr nodedig a gydnabyddir am eu cyflawniadau.