CDdC yn cyflwyno cyfleoedd ariannu newydd i gryfhau’r capasiti ymchwil, cydweithrediad a’r diwylliant ymchwil yng Nghymru 

Mae cynnig ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr yn parhau i dyfu. Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyflwyno tri chyfle ariannu a gynlluniwyd i gefnogi ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i ddatblygu cydweithrediadau, cryfhau diwylliant ymchwil, a meithrin y cysylltiadau a’r capasiti sydd eu hangen i gefnogi amgylchedd ymchwil llewyrchus. 

Mae’r cynlluniau’n adlewyrchu ymrwymiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi ymchwil ac ymchwilwyr yng Nghymru ac i fuddsoddi yn y partneriaethau, y rhwydweithiau a’r cyfleoedd sy’n galluogi ymchwil i ffynnu. Rydym yn falch o weithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys Medr, Llywodraeth Cymru ac Academi Harddwch Cymru, i ddatblygu cyllid sy’n ategu cydweithrediad ar draws sefydliadau a sectorau, ac sy’n cryfhau cysylltiadau Cymru gyda’r gymuned ymchwil ryngwladol ehangach. 

 

Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil 

Bydd rownd newydd o’r Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil, a ariennir gan Medr, yn cefnogi ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau ymchwil sy’n gweithio ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â heriau a chryfhau diwylliant ymchwil. Gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at £3,000 i gefnogi eu gweithgareddau a’u hallbynnau arfaethedig. 

Mae’r rownd newydd hefyd yn cynnig cyfle i rwydweithiau a gefnogwyd gan yr alwad cyllid CDdC flaenorol i adeiladu ar eu gwaith a datblygu eu gweithgarwch. Dylai rhwydweithiau presennol sy’n gwneud cais am gyllid pellach ddangos gwerth ychwanegol y gweithgarwch newydd arfaethedig yn glir, nodi’r canlyniadau newydd disgwyliedig, a dangos sut mae’r gwaith yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mater diwylliant ymchwil perthnasol. 

Ceisiadau’n cau: 14 Hydref 2026, 4pm 

Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil  rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais 

 

Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon   

Bydd y Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon newydd yn cefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru i ddatblygu cydweithrediadau ymchwil â phartneriaid yn Iwerddon. 

Mae’r cynllun, a gyflwynir gan CDdC mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn rhan o ymrwymiad ehangach i gryfhau cysylltiadau ymchwil ac arloesi rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd yn cynnig cymorth ar gyfer teithiau ymchwil byr a all helpu ymchwilwyr gyrfa gynnar i gynnal ymchwil sylfaenol, sefydlu cydweithrediadau a rhwydweithiau newydd i ddatblygu cynigion mwy, neu gyrchu offer neu hyfforddiant nad ydynt ar gael yng Nghymru. Anogir ymgeiswyr i ystyried sut mae eu gweithgarwch arfaethedig yn cyd-fynd â’r chwe maes polisi cytunedig a nodir yn y Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 

Mae’r cynllun yn cyd-fynd â’r rhan Iwerddon-Cymru o Gynllun Grantiau Charlemont, a weinyddwyd gan Academi Frenhinol Iwerddon, gan greu cyfleoedd dwyochrog i ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru ac Iwerddon.  

Ceisiadau’n cau: 27 Hydref 2026, 5pm  

Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon – rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais 

 

Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil 

Mae’r Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil yn darparu grantiau o hyd at £1,000 i gefnogi prosiectau cydweithredol sydd yn y cyfnod datblygu cynnar ar draws y themâu canlynol: Astudiaethau Cymreig, Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, y Dyniaethau, Celfyddydau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Llwybrau i Heddwch (a noddir gan Academi Heddwch Cymru). Gall gweithdai yn y ffrwd Llwybrau i Heddwch, sy’n cynnwys partner rhyngwladol, wneud cais am hyd at £2,000. 

“Mae’r grantiau hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ymchwilwyr ddatblygu syniadau newydd, cryfhau cydweithrediadau ac adeiladu rhwydweithiau a all arwain at bartneriaethau ymchwil tymor hwy. Rydym yn hynod falch o weithio gyda’n rhanddeiliaid i ddod â chefnogaeth a chyfleoedd pellach i’r gymuned ymchwil ledled Cymru,” dywedodd Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Ceisiadau’n cau: 14 Hydref 2026, 4pm 

Cynllun Grant Gweithdy Ymchwilrhagor o wybodaeth a sut i wneud cais 

 

“Mae’r grantiau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ymchwilwyr ddatblygu syniadau newydd, cryfhau cydweithrediadau ac adeiladu rhwydweithiau a all arwain at bartneriaethau ymchwil hirdymor. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i ddod â chefnogaeth a chyfleoedd pellach i’r gymuned ymchwil ledled Cymru,” dywedodd Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr CDdC.

 

Dysgwch ragor a gwnewch gais 

Anogir ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y cyfleoedd hyn i ddysgu rhagor am bob cynllun, gan gynnwys cymhwysedd, y cyllid sydd ar gael a’r dyddiadau cau ar gyfer ymgeisio. Ni chaiff unigolyn wneud cais fel Prif Ymgeisydd ond mewn un o gynlluniau grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fodd bynnag, gallant gael eu henwi fel Cydweithredwr neu Gyfranogwr mewn ceisiadau a gyflwynir i unrhyw un o gynlluniau grant eraill y Gymdeithas. 

yn ôl i'r brig