Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n Cyhoeddi Enwau Enillwyr Newydd Ei Chwe Medal
20 Mai, 2020
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi enwau’r chwe academydd diweddaraf i ennill medalau’r Gymdeithas yn gydnabyddiaeth am eu rhagoriaeth academaidd.
Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.
- Frances Hoggan
Yr Athro Haley Gomez MBE FLSW, Athro Astroffiseg yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd, yw enillydd Medal Frances Hoggan 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu ymchwil rhagorol gan fenywod mewn pynciau STEMM.
Darllenwch mwy
- Medal Menelaus
Yr Athro Nidal Hilal, deiliad Cadair Peirianneg Prosesu Dŵr ym Mhrifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Menelaus 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg.
Darllenwch mwy
- Hugh Owen Medal
Yr Athro Sally Power, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), yw enillydd Medal Hugh Owen 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ei hymchwil addysgol rhagorol.
Darllenwch mwy
- Medalau Dillwyn
Mae Medalau Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru:
– Dr Rebecca Dimond, darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes)
Darllenwch mwy
– Dr Jennifer Edwards, Darlithydd mewn Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd: Medal Dillwyn (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth)
Darllenwch mwy
– Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: Medal Dillwyn (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol)
Darllenwch mwy