Cynllun Grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ailagor i ychwanegu at lwyddiant cynyddol
Mae adnewyddu partneriaeth gydag Academi Heddwch Cymru, sefydliad heddwch Cymru, yn dangos pwysigrwydd cynyddol ein Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil, sy’n ail-lansio ar gyfer 2025-26.
Mae’r cynllun yn cynnig grantiau i drefnu gweithdai sy’n arwain at ddatblygu agendâu ymchwil neu rwydweithiau newydd.
Bydd Academi Heddwch Cymru yn rhoi cyfanswm o £6000 tuag at y ffrwd ‘Llwybrau tuag at Heddwch’, gyda £1000 ar gael i brosiectau llwyddiannus, gyda’r swm hwnnw’n codi i £2000 os yw’n cynnwys partner rhyngwladol.
Mae grantiau o £1000 hefyd ar gael i brosiectau sy’n disgyn dan un o’r tri maes arall y mae’r cynllun Grant Gweithdy Ymchwil yn eu cwmpasu: ‘Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar’, ‘Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol’ ac ‘Astudiaethau Cymreig’.
Mae’r ffrwd Astudiaethau Cymreig yn plethu i mewn i’n pwyslais newydd yn y maes, gyda chynhadledd (‘Ble Nesaf i Astudiaethau Cymreig?’) a gynhaliwyd yn Aberystwyth mis Mawrth diwethaf a Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig newydd a lansiwyd ar LinkedIn ym mis Awst.
Cefnogwyd chwech ar hugain o brosiectau drwy’r cynllun Grant Gweithdy Ymchwil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda phynciau yn amrywio o glwb pêl-droed Wrecsam i belydrau cosmig, cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle i fanciau bwyd. Roedd y pedwar prosiect gyda chefnogaeth y “Llwybrau tuag at Heddwch’ yn cynnwys prosiectau ar ddadleoli, mudo ac ymyraethau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
“Mae Academi Heddwch Cymru, sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru, yn falch iawn o fod yn gweithio unwaith eto gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar y fenter bwysig hon. Rydym eisoes wedi gweld gwerth y cynllun o ran creu rhwydweithiau newydd a herio naratif trechol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhagor o ymchwilwyr yn yr alwad newydd hon.”
Mae effaith y cynllun Grant Gweithdy Ymchwil yn fwyaf amlwg wrth ystyried y ffaith bod derbynwyr y grantiau wedi sicrhau dros £90,000 mewn cyllid ychwanegol, gan ffurfio partneriaeth gydag ystod helaeth o sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, CBI Cymru, Prifddinas Ranbarth Caerdydd, a Fertility Network UK.
Mae dau ddarn blog diweddar gan dderbynwyr grant yn amlinellu sut ddefnyddiwyd yr arian, un ar dad-drefedigaethu o fewn Addysg Uwch yng Nghymru, a’r llall ar ddeddfwriaeth mewn gwledydd datganoledig. Mae’r blogiau yn adlewyrchu sut lwyddodd y gweithdai i “sbarduno syniadau a meddyliau newydd” a helpu ymchwilwyr yn y maes i gysylltu gyda’i gilydd.