Mae Angen Meddwl yn Feiddgar i Ddatblygu Arloesedd yng Nghymru
Mae’n rhaid i Gymru adrodd stori glir am arloesi yng Nghymru, meddai Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Daw’r sylwadau yn sgil ymateb y Gymdeithas i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Arloesi Cymru.
Un o gryfderau cenhedloedd bychain yw’r gallu i randdeiliaid allweddol weithredu mewn ffordd gydlynol. Mae’n rhaid i Strategaeth Arloesi Cymru ddangos sut y gallai cyfranogwyr y tu hwnt i Lywodraeth Cymru gyfrannu at yr agenda cenedlaethol hwn.
Mae’r Gymdeithas yn tynnu sylw at botensial Cymru o weithredu ymagwedd ‘comin arloesedd’. Mae hyn yn gallu dod ag unigolion, sefydliadau, a sefydliadau sydd wedi’u datgysylltu o bob rhan o’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd.
Mae ein hymateb yn pwysleisio pwysigrwydd prifysgolion Cymru yn yr ecosystem arloesi hefyd. Rydym yn pwysleisio rôl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i gefnogi’r sector i ddatblygu’r gallu i gyflawni ymchwil ac arloesedd.
Cyfres o Sesiynau Bord Gron y Gymdeithas ar Arloesedd
Cynhaliodd y Gymdeithas chwe sesiwn bord gron arbenigol rhwng Tachwedd 2021 a Gorffennaf 2022, cyn cyhoeddi ‘Strategaeth Arloesi’ Llywodraeth Cymru.
Daeth y rhain mewn ymateb i adolygiad Llywodraeth Cymru o’i pholisïau arloesi. Cafodd y gyfres o sesiynau bord gron ei harwain gan yr Athro Rick Delbridge Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, cynghorydd arbennig y Gymdeithas ar arloesi.
Roedd y sesiynau’n trafod:
- trosolwg o’r dirwedd arloesi bresennol;
- gwersi o genhedloedd bach arloesol;
- rôl parciau gwyddoniaeth;
- y model tir comin arloesi;
- cyfleoedd i adeiladu arloesedd o fewn agenda cenhadaeth ddinesig y sector Addysg Uwch;
- agweddau at arloesi yn y trydydd sector.
Mae adroddiadau sy’n crynhoi pob un o’r sesiynau ar gael ar wefan y Gymdeithas, ac yn cael eu bwydo mewn i’n hymateb i ymgynghoriad y Strategaeth Arloesi.