Rhodd Robin Okey i Gymdeithas Ddysgedig Cymru: effaith ddofn gadael etifeddiaeth

Cryfder y berthynas sydd yn cael ei ffurfio rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’i Chymrodyr yw’r agwedd fwyaf boddhaol ar ein gwaith.
Felly, roeddem yn teimlo anrhydedd o ddarganfod ym mis Mawrth, bod ein diweddar Gymrawd, yr Athro Robin Okey FLSW, wedi gadael etifeddiaeth o bron i £70,000 i ni yn ei ewyllys, yn dilyn ei farwolaeth yn 2023. Deilliodd ei haelioni o hoffter dwfn tuag at Gymru ac at Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Rydym yn ddiolchgar dros ben iddo am ei rodd.
Roedd Robin Okey, a anwyd yng Nghaerdydd, yn hanesydd a dreuliodd ddeugain mlynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Warwick, yn arbenigo ar ddwyrain Ewrop. Efallai bod ei ymchwil yn cael ei ddangos orau yn ei lyfr Eastern Europe, 1740-1980: Feudalism to Communism. Cyhoeddwyd ei lyfr olaf, Towards Modern Nationhood: Wales and Slovenia, c.1750–1918, ychydig cyn ei farwolaeth, a dyfarnwyd Gwobr Francis Jones Coleg yr Iesu iddo am y llyfr gorau ar hanes Cymru a gyhoeddwyd yn 2023. Roedd teyrngedau iddo yn cofio dyn addfwyn a charedig, amlieithog a deallusol, ac a oedd yn angerddol am rygbi Cymru.
Fel gyda phob elusen, rhoddion fel un Robin yw un o’r ffyrdd gorau o gefnogi ein pwrpas elusennol. Ar ôl darparu ar gyfer teulu a ffrindiau, gall hyd yn oed rhodd fechan gael effaith ddofn a pharhaol. I sefydliad bach ac ifanc, fel ni, maen nhw’n helpu i adeiladu cynaliadwyedd hirdymor, tra’n caniatáu inni wrthsefyll y stormydd, ar lefel ranbarthol neu fyd-eang, sy’n herio ein cynnydd.
Os hoffech ystyried gadael rhodd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan a thrwy ddarllen y daflen hon, neu gallwch gysylltu â’n Prif Weithredwr, Olivia Harrison, am sgwrs anffurfiol, gychwynnol.
Mae gadael etifeddiaeth yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Mae’n caniatáu inni ehangu ein rhwydwaith ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar, a chynnig help llaw i’r rhai ar ddechrau eu taith ymchwil, o’r rhai sydd wedi teithio bellaf.
Maen nhw hefyd yn ein helpu i ddyfarnu’r medalau sy’n dathlu ac yn eiriol dros ymchwil yng Nghymru, rhedeg y mentrau sy’n amrywiaethu ein Cymrodoriaeth, a rhedeg y sesiynau bord gron sy’n siapio dadleuon ar bolisi.
Mae haelioni Robin Okey, a haelioni pob un ohonoch sy’n ein cefnogi, yn gwneud ein gwaith yn bosibl dros Gymru.