Syr Vaughan Jones: Teyrnged Gan Gymdeithas Fathemategol America

Mae Syr Vaughan Jones, a fu farw y llynedd, yn cael ei gofio a’i anrhydeddu gan gyn-ffrindiau a chydweithwyr yn y deyrnged goffa hon gan Gymdeithas Fathemategol America.

Sir Vaughan Frederick Randal Jones, who died at age 67 on September 6, 2020, was one of the most influential and inspirational mathematicians of the last four decades. His original and penetrating analysis of inclusions of von Neumann algebras led to the creation of new fields of research, while reinvigorating old ones, thereby setting off an extraordinary interplay between disparate areas of mathematics, from analysis of operator algebras, to low-dimensional topology, statistical mechanics, quantum computing, and quantum field theory.

Memories of Vaughan Jones: American Mathematical Society

Cafodd mathemateg ei chwyldroi gan Syr Vaughan ar ddechrau’r 1980au pan ganfu cysylltiadau dwys rhwng is-ffactorau, gwrthrychau analytig yn namcaniaeth algebra gweithredyddion a gwrthrychau topolegol, clymau a chysylltiadau mewn gofod tri dimensiynol.

Fe wnaeth ei ddarganfyddiad rhyfeddol ac annisgwyl o bolynomial Jones yn gysylltiedig â chlymau a chysylltiadau ddatrys, ymhlith pethau eraill, problemau oedd heb eu datrys ers y 19eg ganrif yn ymwneud â dyfaliadau Tait. Yn sgil hyn, agorwyd meysydd eang newydd o ymchwil ym maes mathemateg mewn perthynas â dadansoddi, algebra, geometreg a thopoleg. Mae datblygiadau dilynol wedi canfod cymwysiadau a chysylltiadau â mecaneg ystadegol a matricsau hap, damcaniaeth maes cwantwm (ffiseg) a thopoleg edafedd DNA a phlygiant proteinau.

Enillodd Fedal Fields am y darganfyddiadau hyn (yr hyn sy’n cyfateb i Wobr Nobel ym maes mathemateg), ac mae hefyd wedi ennill Medal Rutherford a Medal Onsager. Mae’n un o Gymrodorion Cymdeithas Frenhinol Seland Newydd Te Apārangi a’r Gymdeithas Frenhinol, Aelod o Academi Gwyddorau Genedlaethol yr Unol Daleithiau, ac Aelod Tramor o sawl cymdeithas ddysgedig genedlaethol arall.

Mae Syr Vaughan yn Athro Neilltuol ac yn Athro Stevenson ym Mhrifysgol Vanderbilt, ac yn Gyfarwyddwr Athrofa Ymchwil Mathemategol Seland Newydd.

Darllen pellach


Newyddion y Cymrodyr