Y Sefydliad Ffiseg yn Enwi’r Athro Lyn Evans yn Gymrawd er Anrhydedd

Mae’r Sefydliad Ffiseg wedi enwi’r Athro Lyn Evans, y ffisegydd adnabyddus o Gymru, yn Gymrawd er Anrhydedd ar gyfer 2021.

Meddai’r Athro Lyn Evans: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi’n Gymrawd er Anrhydedd gan y Sefydliad Ffiseg.

“Rwy’n falch o ymuno â grŵp mor ysbrydoledig o ffisegwyr ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad Ffiseg er mwyn hyrwyddo ei genhadaeth i ysbrydoli pobl i feithrin eu gwybodaeth am ffiseg a’u dealltwriaeth a’u mwynhad ohoni.”

Wrth longyfarch cymrodorion er anrhydedd eleni, meddai’r Athro Sheila Rowan, Llywydd y Sefydliad Ffiseg: “Mae ein cymrodorion er anrhydedd yn grŵp anhygoel o ffisegwyr sydd wedi cael dylanwad ar ein maes fel unigolion ac ar y cyd. 

“Maent i gyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i’n dealltwriaeth o ffiseg, a’n hymdrechion i’w hyrwyddo, ac maent yn enghraifft o’r hyn y gallwn ei gyflawni fel cymuned.

“Ar ran y Sefydliad Ffiseg, rwy’n estyn llongyfarchiadau gwresog iddynt hwy i gyd.”

Y Sefydliad Ffiseg yn enwi’r Athro Lyn Evans, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn Gymrawd er Anrhydedd – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Darllen pellach


Newyddion y Cymrodyr