Jadwiga (Wisia) Furmaniak

Athro Gwadd er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd Mae’r Athro Furmaniak yn gyd-ddyfeisiwr ar 14 o batentau - dyfeisiadau a ddefnyddir mewn citiau diagnostig mewn labordai clinigol ledled y byd. Mae hi wedi datblygu dulliau diagnostig newydd ar gyfer y clefyd awto-imiwn mwyaf cyffredin (clefyd Graves); mae hyn wedi arwain... Darllen rhagor

Jing (Maggie) Chen

Athro Mathemateg Ariannol, Prifysgol Caerdydd Mae'r Athro Maggie Chen yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Technoleg Ariannol, prosesau Hawkes ac AI ar gyfer Cyllid. Mae hi'n awdur â chyfoeth o gyhoeddiadau ac yn olygydd cysylltiol ar gyfnodolion blaenllaw mewn sawl disgyblaeth. Mae'n arwain prosiectau ymchwil yr EPSRC gan... Darllen rhagor

Padma Anagol

Darllenydd mewn Hanes Asiaidd Modern, Prifysgol Caerdydd Mae Padma Anagol yn hanesydd rhywedd a menywod yn yr India trefedigaethol. Mae ei gwaith arloesol yn ailgysyniadu galluoged menywod yn Ne'r Byd. Mae hi ar fwrdd golygyddol Women’s History Review, a South Asia Research ac roedd hi hefyd yn olygydd i Cultural an... Darllen rhagor

Nick Clifton

Athro Daearyddiaeth Economaidd a Datblygu Rhanbarthol a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Arloesi ac Adfywio Ranbarthol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd Mae'r Athro Clifton wedi adeiladu proffil ymchwil rhyngwladol drwy gyfoeth o gyhoeddiadau am yr economi sylfaenol a chylchol; creadigrwydd ac arloesedd; diwylliant a brandi... Darllen rhagor

Zubeyde Bayram-Weston

Uwch Ddarlithydd mewn Anatomeg a Ffisioleg, Prifysgol Abertawe Anatomegydd a niwrowyddonydd yw Dr Bayram-Weston sy'n arbenigo mewn Clefyd Huntington. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar fecanweithiau cellog a moleciwlaidd clefydau niwroddirywiol, yn enwedig clefyd Huntington. Mae hi wedi cyfrannu at nifer o brosiectau cy... Darllen rhagor

Amanda Collis

Cyfarwyddwr Gweithredol – Strategaeth a Rhaglenni Ymchwil, UK Research and Innovation – Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol Ffocws gwaith Amanda Collis yw strategaeth, polisi a chyllid ymchwil. Mae hi'n ymroddedig i hyrwyddo 'biowyddoniaeth darganfod', ymchwil rhyngddisgyblaethol, a rhaglenni stratego... Darllen rhagor

Simon Chandler-Wilde

Athro Mathemateg Gymhwysol, Prifysgol Reading Mae gan yr Athro Chandler-Wilde ddiddordebau ymchwil eang mewn mathemateg a’i chymwysiadau. Mae a wnelo ei brif gyfraniadau gwyddonol â dadansoddi mathemategol ac ymdriniaeth gyfrifiannol â phroblemau gwasgariad ac ymlediad tonnau, yn enwedig... Darllen rhagor

Manon Antoniazzi

Clerc a Phrif Weithredwr, Senedd Cymru Dr Antoniazzi yw Clerc a Phrif Weithredwr Senedd Cymru, a oruchwyliodd y broses o drosi'r Cynulliad yn Senedd, a gweithredu deddfwriaeth diwygio. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, ac mae hi wedi dal rolau polisi a gweithredol dylanw... Darllen rhagor

Sumina Azam

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae Dr Azam yn weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ac wedi gweithio yn y maes ers 18 mlynedd. Treuliodd 12 o'r blynyddoedd hynny ar lefel Ymgynghorydd, ac mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cenedlaethol ers mis Mai 2023. Mae hi w... Darllen rhagor

Shannu Bhatia

Darllenydd Clinigol ac Ymgynghorydd er Anrhydedd Deintyddiaeth Pediatrig, Prifysgol Caerdydd a Llywydd, Cymdeithas Deintyddiaeth Pediatrig Prydain Mae Shannu Bhatia yn Ddarllenydd Clinigol ac yn Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn deintyddiaeth bediatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, a chanddi gefndir mewn addysg feddygol a deint... Darllen rhagor