Delyth James

Athro mewn Fferylliaeth a Meddygaeth Ymddygiadol, Prifysgol Abertawe ac Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth, Cardiff Metropolitan University Fel fferyllydd cofrestredig, mae'r Athro James yn defnyddio damcaniaethau seicolegol i fynd i'r afael â phroblemau'n gysylltiedig â'r modd y bydd pobl yn defnyddio ... Darllen rhagor

Gwyn Gould

Athro Bioleg Celloedd, Prifysgol Strathclyde Mae'r Athro Gould yn arwain labordy ymchwil amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gwyddonwyr o feysydd biocemeg, meddygaeth, bioffiseg a dulliau cyfrifiannu. Mae ei ymchwil wedi arwain at fewnwelediadau pwysig i'r modd y mae glwcos yn symud ar draws cellbilenni. Mae ei ffocws ar s... Darllen rhagor

Chris Greenwell

Athro Geocemeg, Prifysgol Durham ac Uwch Gynghorydd Gwyddonol, X-Ray Mineral Services Ltd, Conwy Mae ymchwil yr Athro Greenwell yn ceisio deall y rhyngweithiadau rhwng mwynau haenog, fel mwynau clai a deunyddiau cysylltiedig, a moleciwlau organig, gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau cyfrifiannol ac arbrofol. Mae'r gwa... Darllen rhagor

Lyn Jones

Phrif Ymchwilydd, Sefydliad Canser Dana-Farber/Ysgol Feddygol Harvard, Boston, UDA Mae gan Lyn Jones dros chwarter canrif o brofiad fel cemegydd meddyginiaethol a biolegydd cemegol. Mae wedi gweithio yn y byd academaidd ac mewn diwydiant, lle mae wedi cyfrannu'n sylweddol at ddarganfod cyffuriau. Mae ei ymchwil yn nod... Darllen rhagor

Arwyn Edwards

Reader in Biosciences, Prifysgol Aberystwyth and Yr Athro II, University Centre in Svalbard (UNIS), Longyearbyen, Norway Darllenydd yn y Biowyddorau, Prifysgol Aberystwyth a’r Athro II, Canolfan y Brifysgol yn Svalbard (UNIS), Longyearbyen, Norwy Mae Dr Edwards yn ficrobiolegydd amgylcheddol blaenllaw sy'n gweithio ... Darllen rhagor

Huw Davies

Athro Geodynameg, Prifysgol Caerdydd Mae'r Athro Davies wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'n dealltwriaeth o ddeinameg fewnol y ddaear. Mae hyn yn cynnwys datblygu modelau i ddeall ffurfiant a mudiant magma pan fydd platiau tectonig yn llithro'r naill dros y llall, yn ogystal â dynameg a fflwcs gwres y fantell (y ... Darllen rhagor

Philip Donoghue

Athro Palaeobioleg, Prifysgol Bryste Mae ymchwil yr Athro Donoghue yn canolbwyntio ar achosion a chanlyniadau trawsnewidiadau esblygol mawr, gan ddwyn ynghyd dystiolaeth o'r cofnod ffosil a genomeg gymharol. Cyflwynodd ddelweddu syncrotron (math o belydr-x) i balaeontoleg, gan ddefnyddio'r dechnoleg i greu cysylltiada... Darllen rhagor

Michael Fitzpatrick

Cadair Sylfaen Gofrestr Lloyd's mewn Peirianneg Deunyddiau a Pherfformiad Systemau, Prifysgol Coventry Peiriannydd deunyddiau yw'r Athro Fitzpatrick sy'n gweithio ym maes cyfanrwydd strwythurol ar gyfer systemau lle mae diogelwch yn dyngedfennol. Mae'n dylunio ac yn cymhwyso dulliau arbrofol datblygedig ar briodweddau... Darllen rhagor

Zubeyde Bayram-Weston

Uwch Ddarlithydd mewn Anatomeg a Ffisioleg, Prifysgol Abertawe Anatomegydd a niwrowyddonydd yw Dr Bayram-Weston sy'n arbenigo mewn Clefyd Huntington. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar fecanweithiau cellog a moleciwlaidd clefydau niwroddirywiol, yn enwedig clefyd Huntington. Mae hi wedi cyfrannu at nifer o brosiectau cy... Darllen rhagor

Simon Chandler-Wilde

Athro Mathemateg Gymhwysol, Prifysgol Reading Mae gan yr Athro Chandler-Wilde ddiddordebau ymchwil eang mewn mathemateg a’i chymwysiadau. Mae a wnelo ei brif gyfraniadau gwyddonol â dadansoddi mathemategol ac ymdriniaeth gyfrifiannol â phroblemau gwasgariad ac ymlediad tonnau, yn enwedig... Darllen rhagor