Rattan Yadav
Athro Geneteg Planhigion, Prifysgol Aberystwyth
Yn ei waith ymchwil dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, mae'r Athro Yadav wedi canolbwyntio ar gipio a throsi amrywiadau genetig sy'n digwydd yn naturiol ym mhlasm cenhedlu cnydau er mwyn sicrhau canlyniadau er lles y cyhoedd. Mewn partneriaeth ag ymchwilwyr yn ne ... Read More
Michael Hughes
Athro Peirianneg Biofeddygol, Prifysgol Khalifa
Mae ymchwil yr Athro Michael Hughes mewn peirianneg biofeddygol yn archwilio'r rhyngweithio rhwng celloedd a meysydd trydan; mae'n defnyddio hwn i astudio sut mae celloedd yn rhyngweithio â'u hamgylchedd, i wneud diagnosis o glefydau fel canser, ac i archwilio sut y m... Read More
Yueng-Djern Lenn
Athro Eigioneg Ffisegol, Prifysgol Bangor
Mae ymchwil yr Athro Lenn yn canolbwyntio ar effaith gwres a gludir gan y cefnforoedd pegynol ar iâ'r môr a'r hinsawdd. Datgelodd fanylion newydd ynghylch sut mae trolifau Cefnfor y De yn rhan allweddol o gydbwysedd ynni Cerrynt Ambegynol yr Antarctig mawr; mae'r trolifau ... Read More
Aimee Morgans
Athro Thermohylifau, Coleg Imperial Llundain
Mae'r Athro Morgans yn ymchwilio i ddynameg hylif, aeroacwsteg a hylosgiad. Enillodd raddau MEng a Doethuriaeth mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn ymuno â Choleg Imperial Llundain yn 2007, lle daeth yn Athro llawn yn 2017. Mae hi wedi dal grantiau ‘Cychwyn a... Read More
Chris Pearce
Dirprwy Bennaeth (Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth), Prifysgol Glasgow
Mae'r Athro Pearce wedi gwneud ymchwil ym maes peirianneg gyfrifiannol. Mae'n canolbwyntio ar fodelu ymddygiad deunyddiau cymhleth a phroblemau aml-ffiseg. Mae wedi cymhwyso'r technegau hyn i feysydd amrywiol, gan gynnwys peirianneg sifil, niwclear... Read More
Mark Taubert
Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol ac Athro Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Ffocws yr Athro Taubert yw gofal lliniarol, gan ddefnyddio'r cyfryngau newydd mewn lleoliadau clinigol a gwneud penderfyniadau tua diwedd oes. Ef yw sylfaenydd TalkCPR.com ac mae'n cadeirio grŵp... Read More
Agustin Valera-Medina
Cyfarwyddwr, Sefydliad Arloesi Sero Net, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Valera-Medina wedi cymryd rhan fel Prif Ymchwilydd/Cyd-ymchwilydd mewn 30 o brosiectau diwydiannol. Mae wedi cyhoeddi 215 o bapurau (mynegai-h 34) ac wedi arwain cyfraniadau Caerdydd mewn 10 o brosiectau y bwriadwyd iddynt ddangos pŵer amonia m... Read More
Andrew Westwell
Athro Cemeg Feddyginiaethol ac Aelod Bwrdd Annibynnol (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre), Prifysgol Caerdydd
Ffocws diddordebau ymchwil yr Athro Westwell yw darganfod cyffuriau cyn-glinigol sy'n targedu canser Mae gwaith i ddarganfod atalydd newydd Bcl3, mewn cydweithrediad â phartneriaid o'r diwydiant, wedi ... Read More
Peter Groves
Cardiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queen Mary Llundain
Mae'r Athro Groves wedi arwain arloesi clinigol ac wedi darparu arweinyddiaeth genedlaethol a lleol ym maes datblygu technoleg feddygol am fwy na deng mlynedd ar hugain. Mae w... Read More