Newyddion

The latest news from the Learned Society of Wales

Y Gymdeithas yn Arwain Archwiliad Manwl i Astudiaethau Achos Effaith REF21

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arwain prosiect newydd, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, CCAUC a Rhwydwaith Arloesi Cymru, i archwilio’r set ddata ar gyfer astudiaeth achos effaith Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF). Bydd hyn yn datgelu gwybodaeth newydd am gyfraniad ymchwil gan brifysgolion Cymru ... Read More

Newyddion y Cymrodyr: Mai 2023

Derbyniodd yr Athro Ann John wobr yng nghategori ‘Cyfraniad Rhagorol mewn Gwyddoniaeth, Technoleg a Gofal Iechyd’ yn seremoni gwobrwyo’r EMWWAA (Cymdeithas Cyflawniad Merched Cymreig o Leiafrifoedd Ethnig) ar 13 Mai. Derbyniodd Yr Athro Charlotte Williams Wobr Cyflawniad Oes. Nod EM... Read More

‘Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus’: Cofrestrwch Nawr

Mae’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan bwysig yn ffyniant cymdeithasol ac economaidd y wlad yn y dyfodol. Dyna fydd y neges fydd yn cael ei chyfleu yng ngholocwiwm Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 'Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus’, a fydd yn cael ei gynnal ... Read More

Cymdeithas yn Datgelu Strategaeth Bum Mlynedd Newydd

Mae’n bleser gennym ddatgelu ein strategaeth bum mlynedd newydd. Mae’r Strategaeth hon yn esbonio uchelgeisiau ac amcanion strategol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd hyrwyddo addysg, dysg, astudiaeth academaidd a gwybodaeth yn cyfrannu at ddatblygiad gwyddonol, diwylliannol, cymd... Read More

Dathlu Blwyddyn Gyntaf o Lwyddiant y Cynllun Grant Ymchwil

Mae cynllun grant gweithdy ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dathlu ei flwyddyn gyntaf ar ôl ariannu 23 prosiect ymchwil sy’n amrywio o grefftau ymladd i Glefyd Parkinson’s, dolffiniaid i ffermydd cymunedol.  Mae’r cynllun yn cymeradwyo hyd at £1000 o grantiau er mwyn galluogi ymchwilwyr i gynnal g... Read More

Datganiad y Gymdeithas – Coroni’r Brenin Charles III

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n llongyfarch y Brenin Charles III ar ei esgyniad i’r Orsedd ac yn dymuno pob llwyddiant i’w Fawrhydi fel y Brenin sy’n teyrnasu am flynyddoedd lawer i ddod. Ar ran y Gymdeithas, mae ein Llywydd, Yr Athro Hywel Thomas PLSW, wedi ysgrifennu at y Brenin Read More