Llŷr Williams

Pianydd cyngerdd â repertoire helaeth yw Llŷr Williams. Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn neuaddau cyngerdd mawr yn rhyngwladol ac o fewn y DU, ac mae ganddo gysylltiadau hir â bron pob un o’r sefydliadau a'r gwyliau cerddorol yng Nghymru. Yn gyn Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, mae wedi perfformio â holl bri... Read More

John G Williams

Athro Emeritws, Prifysgol Abertawe Gastroenterolegydd academaidd yw'r Athro Williams, a chanddo ddiddordebau ymchwil ym maes canlyniadau cleifion, darparu gwasanaeth a chofnodion meddygol. Fe'i ganed yn Abertawe, a dychwelodd ym 1988 i sefydlu Ysgol Feddygol Ôl-radd, a osododd y sylfeini ar gyfer yr Ysgol Feddygol ... Read More

Eurwyn Wiliam

Ceidwad Emeritws, Amgueddfa Cymru Yn ei waith ymchwil mae Dr Wiliam yn canolbwyntio ar gartrefi a bywydau tlodion cefn gwlad o'r gorffennol, na roddwyd rhyw lawer o sylw iddynt yn flaenorol, ac ar hanesyddiaeth. Mae wedi hyrwyddo canlyniadau ei waith drwy gyhoeddiadau academaidd ac yn ehangach drwy gyfryngau, gan gy... Read More

Paul Mealor

Cyfansoddwr ac Athro Cyfansoddi, Prifysgol Aberdeen Paul Mealor yw un o'r cyfansoddwyr byw y mae ei weithiau'n cael eu perfformio fwyaf yn y byd. Mae ei ddwy opera, ei pedair symffoni, ei gerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu, dros gant o weithiau corawl cyhoeddedig a chyfansoddiadau niferus ar gyfer ensemble wedi y... Read More

Deian Hopkin

Llywydd, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Treuliodd yr Athro Syr Deian Hopkin 44 mlynedd fel rheolwr academaidd ac uwch mewn chwe phrifysgol wahanol, gan ymddeol fel Is-Ganghellor Prifysgol South Bank Llundain. Mae ei brif ddiddordebau academaidd mewn hanes a gwleidyddiaeth fodern, y wasg, y Mudiad Llafur yng N... Read More

Sumit Goyal

Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Sumit Goyal yw'r arweinydd canser y fron presennol yng Nghymru yn ogystal â'r Llawfeddyg Sicrhau Ansawdd presennol ar gyfer sgrinio canser y fron Cymru gyfan. Mae wedi codi dros filiwn o bunnoedd i elusen canser y fron, sefydlodd y ganolf... Read More

Aled Eirug

Cadeirydd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Fel Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Dr Eirug oedd y pennaeth golygyddol ar gyfer darllediadau o etholiadau'r DU ac Ewrop a Refferendwm 1997 ar draws tri chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg. Hefyd, lluniodd bolisi iaith leiafrifol ar gyfer y BBC yng Ngogledd Iwerddon ac... Read More

Haydn Edwards

Ymgynghorydd annibynnol Dr Edwards oedd Pennaeth a Phrif Weithredwr cyntaf Coleg Menai. Yn dilyn ei yrfa arwain yn y sector addysg bellach, cyfrannodd hefyd at fywyd cyhoeddus yng Nghymru, fel is-lywydd ac ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru, cyfarwyddwr anweithredol Estyn, a chadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae w... Read More

Indu Deglurkar

Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Gwadd Anrhydeddus, Sefydliad Gwyddorau Meddygol Sri Venkateswara Prifysgol (SVIMS) Tirupati, India Mae'r Athro Deglurkar yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, sydd â diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth aortig a llawfedd... Read More

Alka Ahuja

Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Mae Alka Ahuja MBE yn seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol, ac mae ganddi rolau gyda Technology Enabled Care Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd. ... Read More